Prynu Lluniau Digidol
Mae modd prynu lluniau digidol yn syth o’r wefan. Caiff llun unigol neu grŵp o luniau ei ychwanegu at eich basged drwy glicio’r botwm “Prynu” o dan y lluniau. Pris y lluniau a brynwch i’w defnyddio gennych chi’n bersonol yw £9.90 yr un a chânt eu cyflenwi yn ôl dyraniad o 300 dpi. Os cânt eu defnyddio at ddiben arall, cewch chi ddyfynbris.
Cwblhau’r Prynu
Cliciwch ar eicon y fasged o dan lun i’w ychwanegu at eich basged. Rhowch fanylion y drwydded a’ch manylion personol drwy fynd drwy’r tabiau sydd wedi’u labelu. Cliciwch “Archebu’n Awr” i gyflwyno’ch cais.
Prosesu Archebion
- Caiff trwydded a dyfynbris eu hanfon atoch drwy e-bost cyn pen diwrnod fel rheol (cyn pen ychydig oriau, yn aml).
- Os newidiwch chi’ch meddwl, gallwch chi roi’r gorau i’r archeb neu anfon e-bost atom i newid eich gofynion.
- Ewch i gyswllt y wefan a gewch chi yn yr e-bost i ddangos eich bod yn derbyn y drwydded ac i dalu.
- Wrth dderbyn y drwydded, yr ydych chi’n ymrwymo i brynu.
- Yna, cewch chi lwytho’r lluniau i lawr ar unwaith.
Prisiau
1. Ffïoedd cyflenwi
- Mae’r holl brisiau wedi’u nodi heb gynnwys TAW.
Delweddau a ffeiliau digidol |
|
Delwedd ddigidol sy’n bodoli’n barod, lawrlwytho ar-lein |
£12.20 |
2. Ffïoedd trwyddedau
-
Ni chodir tâl am drwyddedau Personol ac Addysgol. Fodd bynnag, codir ffïoedd cyflenwi os yw cwsmeriaid yn gofyn am fersiwn ansawdd uchel o ddelwedd ddigidol neu’n gofyn am gopi o ffeil ddigidol.
-
Mae’r categori Ailddefnyddio at Ddibenion Cyffredinol yn caniatáu trwyddedu heb godi tâl ar gyfer ailddefnyddio cyfyngedig nad yw’n bodloni telerau trwyddedau ar gyfer Ailddefnyddio at ddibenion Personol neu Addysgol.
-
Bydd ffïoedd trwyddedau 50% yn is ar gyfer ailarchebion (e.e. ailargraffiad o lyfr)
Ailddefnyddio at Ddibenion Cyffredinol (rhaid talu ffïoedd cyflenwi hefyd)
Cyhoeddiadau |
|
Cyfnodolion, llyfrau, posteri, cylchgronau, cyhoeddiadau y mae nifer y copïau a gaiff eu hargraffu yn 500 neu lai dros gyfnod o 5 mlynedd |
Dim tâl |
e-gyhoeddiadau sydd â chylchrediad o 500 neu lai dros gyfnod o 5 mlynedd |
Dim tâl |
Arddangosfeydd |
|
Arddangosfeydd / arddangosiadau y rhagwelir y bydd y gynulleidfa ar eu cyfer yn 500 neu lai mewn blwyddyn |
Dim tâl |
Adroddiadau yn y cyfryngau / newyddion (ac eithrio darlledu) |
|
Cyfryngau print y mae nifer y copïau a gaiff eu cynhyrchu fesul rhifyn yn 200 neu lai |
Dim tâl |
Adroddiadau digidol (h.y. llythyr newyddion digidol) y mae eu cylchrediad fesul rhifyn yn 200 neu lai |
Dim tâl |
Gwefannau |
|
Tudalennau gwe y mae eu cynulleidfa yn 500 neu lai mewn blwyddyn |
Dim tâl |
Cyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol, y mae nifer eu dilynwyr yn 500 neu lai |
Dim tâl |
Trwyddedu Masnachol (mae’r ffïoedd yn ychwanegol at y ffi gyflenwi)
Darlledu ar sgrîn (daearol) - sy’n cynnwys teledu dal i fyny ac ar alw |
|
Defnyddio unwaith mewn un cynhyrchiad - Y DU/un wlad |
£50.00 |
Trwydded 5 mlynedd (darlledu diderfyn) - Y DU/un wlad |
£100.00 |
Trwydded 10 mlynedd (darlledu diderfyn) - Y DU/un wlad |
£200.00 |
Defnyddio unwaith mewn un cynhyrchiad - Y byd |
£100.00 |
Trwydded 5 mlynedd (darlledu diderfyn) - Y byd |
£200.00 |
Trwydded 10 mlynedd (darlledu diderfyn) - Y byd |
£400.00 |
Darlledu - ffrydio (sy’n cynnwys darlledu ar sgrîn) |
|
Trwydded 10 mlynedd (darlledu diderfyn) - Y DU/un wlad |
£400.00 |
Trwydded 10 mlynedd (darlledu diderfyn) - Y byd |
£600.00 |
Arddangosfeydd (y gynulleidfa yn fwy na 500 y flwyddyn) |
|
Panel arddangos, mwy na 500 o ymwelwyr y flwyddyn (hyd at 5 mlynedd) (mae’n cynnwys arddangosfeydd y telir amdanynt a’r rheiny mewn mannau cyhoeddus) |
£1.00 |
Arddangosfa ar gyfer eiddo masnachol (e.e. swyddfa, hysbysfyrddau ar adeiladau) (10 mlynedd) |
£40.00 |
Cyhoeddiadau** (argraffiad / cylchrediad sydd dros 500) |
Tudalen y tu mewn |
Clawr |
Taflen / Llyfryn / Cyfnodolyn / Adroddiad |
£8.00 |
£20.00 |
Llyfryn / Cylchgrawn (cylchrediad bach, 501 - 2000) |
£7.50 |
£60.00 |
Llyfryn / Cylchgrawn (cylchrediad mawr - mwy na 2000) |
£60.00 |
£220.00 |
Llyfrau (print ac e-lyfrau) - hawliau yn y DU / mewn un wlad, un iaith |
£40.00 |
£180.00 |
Llyfrau (print ac e-lyfrau) - hawliau byd-eang, un iaith |
£80.00 |
£320.00 |
Llyfrau (print ac e-lyfrau) - hawliau byd-eang, pob iaith |
£120.00 |
£460.00 |
Papurau newydd - rhanbarthol (print a digidol) |
£35.00 |
£150.00 |
Papurau newydd - cenedlaethol (print a digidol) |
£75.00 |
£250.00 |
**Llyfrau a phapurau newydd: ceir gostyngiad o 50% yn y ffi ar gyfer cyhoeddiad print yn unig neu e-lyfr yn unig.
Defnyddio Unwaith yn Unig |
|
E.e. Gŵyl ffilmiau |
£35.00 |
Pecyn Hyrwyddo |
|
Cyfryngau cymdeithasol, gwefan, datganiad i’r wasg |
£20.00 |
Gwefan ac apiau |
|
Masnachol at ddibenion darlunio (5 mlynedd) |
£5.00 |
Masnachol ar gyfer hysbyseb neu danysgrifiad (blwyddyn) |
£50.00 |
Arall |
|
Gwaith ymchwil masnachol heb ei gyhoeddi |
£5.00 |
Mae prisiau ar gyfer defnydd arall ar gael o ofyn amdanynt. |
Dylunio Cynnyrch |
|
Defnydd sy’n cynnwys popeth |
from £160.00 |
Talu
- Cesglir y tâl drwy gerdyn credyd neu ddebyd.
- Yn achos cleientiaid tymor-hir, gallwn ni sefydlu trefniant anfonebu.
- Bydd y lluniau’n dal yn eiddo i berchennog yr hawliau. Mae telerau’r drwydded a gewch yn eich rhwymo chi’n gyfreithiol. I ddefnyddio’r llun at ddiben arall, rhaid i chi gysylltu â ni unwaith eto.
Manylion Cysylltu ar gyfer prynu/archebu lluniau digidol
Historic Environment Scotland sy’n ymdrin â Gwerthiant ac Ymholiadau Gwerthiant ar ran Prydain oddi Fry. Corfforiad statudol a sefydlwyd gan Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol yr Alban 2014 ac elusen gofrestredig (rhif elusen yr Alban SC045925) yw Historic Environment Scotland. Swyddfa gofrestredig: Longmore House, Salisbury Place, Caeredin EH9 1SH. Mae pob cofrestriad yn yr Alban. Rhif TAW Grŵp: GB221868015
T +44 (0)131 651 6872 [please mention Britain from Above]
F +44 (0)131 662 1477
E Online enquiry form
Prynu Printiau
Os hoffech chi brynu print, gwiriwch y cyfeirnod a dilynwch y cyfarwyddiadau isod:
Casgliad Aerofilms Cymru – bydd cyfeirnodau lluniau Aerofilms Cymru’n cychwyn ag WPW neu WAW. Os bydd eich ymholiad yn cyfeirio at un o’r lluniau hynny, cysylltwch ag Penglais, Aberystwyth SY23 3BU. Cyfeiriad e-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Casgliad Aerofilms Lloegr – bydd cyfeirnodau lluniau Aerofilms Lloegr yn cychwyn ag EPW neu EAW. Os bydd eich ymholiad yn cyfeirio at un o’r lluniau hynny, cysylltwch ag Archive Services, English Heritage, The Engine House, Fire Fly Avenue, Swindon SN2 2EH. Cyfeiriad e-bost: archive@english-heritage.org.uk.
Casgliad Aerofilms yr Alban – bydd cyfeirnodau lluniau Aerofilms yr Alban yn cychwyn ag SPW neu SAW. Os bydd eich ymholiad yn cyfeirio at un o’r lluniau hynny, cysylltwch ag RCAHMS, John Sinclair House, 16 Bernard Terrace, Caeredin/Edinburgh, EH8 9NX neu defnyddiwch ein ffurflen ‘holi am lun’ ar y wefan.
Historic Environment Scotland is a Non Departmental Public Body established by the Historic Environment Scotland Act 2014 and is a charity registered in Scotland No. SC045925. Charity registered address: Longmore House, Salisbury Place, Edinburgh.
Sylwch mai cyfeirnodau sy’n cychwyn ag XPW neu XAW sydd i luniau o wledydd eraill. Os oes gennych chi ymholiad ynghylch un o’r lluniau hynny, cysylltwch ag Archive Services, English Heritage, The Engine House, Fire Fly Avenue, Swindon SN2 2EH. Cyfeiriad e-bost: archive@english-heritage.org.uk.