FOI a Cyfreithiol

 

Canllawiau Cymunedol ar gyfer Cynnwys a Gynhyrchir gan y Defnyddiwr

Canllawiau Cymunedol Prydain oddi Fry

Gwahoddwn y cyhoedd i fewngofnodi i’n gwefan a chymryd rhan ynddi drwy gyfrannu gwybodaeth am luniau Aerofilms, ac i ymwneud â chymuned Prydain Oddi Fry drwy ymuno â grwpiau a chymryd rhan ynddynt. Wrth ‘cyfrannu gwybodaeth’ golygwn rannu straeon a llwytho ffotograffau i fyny, ychwanegu a golygu wici ac allweddeiriau lluniau a rhoi gwybodaeth am leoliad daearyddol llun.

Dyma reolau sylfaenol yr holl weithgarwch.

1. Diben y wefan.

Digon syml. Yr ydym wedi digido’r lluniau ac wedi’u rhoi ar y wefan er mwyn i’r cyhoedd gael eu gweld. Am mai cymharol ychydig a wyddom ni am y mwyafrif o’r lluniau, hoffem i’r cyhoedd gofrestru gyda’r wefan ac ychwanegu gwybodaeth am luniau Aerofilms y gwyddant rywbeth amdanynt.

2. Byddwch yn garedig. Ac yn foesgar.

Anerchwch bobl eraill fel yr hoffech chi gael eich annerch. Dim galw enwau nac ymosod yn bersonol.

3. Ddim am bris yn y byd

Mae ambell beth na wnawn ni mo’i oddef – rhegi, bygwth, mynegi casineb, deunydd sy’n ethnig neu’n hiliol dramgwyddus, sylwadau difrïol a sbam, ac enw dim ond dyrnaid ohonynt. Cewch chi wybod rhagor am hyn yn y Telerau ac Amodau sydd ar y wefan.

4. Os gwelwch chi rywbeth, dywedwch rywbeth.

Os gwelwch chi sylw sydd yn eich barn chi yn torri’r canllawiau hyn (neu’n torri canllaw nad ydym ni wedi’i lunio eto, ond y dylem ei lunio), rhowch wybod. Wrth ymyl pob sylw mae botwm bach “rhoi gwybod am ddifrïo”. Drwy glicio arno, caiff ein cymedrolwyr wybod y dylem bwyso a mesur y sylw hwnnw.

5. Sut mae’r cymedroli’n gweithio

Bydd sylwadau a anfonir i wefan Prydain oddi Fry yn ymddangos yno’n syth a gellir eu dileu os bydd y gymuned yn tynnu sylw atynt neu am ryw reswm arall. “Ôl-gymedroli” yw’n henw ni ar hynny. Credwn mewn ôl-gymedroli am fod hynny’n caniatáu trafod bron yn syth ac yn meithrin sgwrsio go-iawn. Bydd unrhyw sylw sy’n cynnwys cysylltau allanol yn ymddangos, ond fel testun yn unig y bydd y cysylltau i’w gweld.

 

Telerau ac amodau

Telerau ac Amodau a Thrwyddedau

Mynediad i PrydainoddiFry a’ch Cytundeb Chi

Darperir mynediad i PrydainoddiFry o dan y Telerau a’r Amodau hyn a’r Trwyddedau yn unig. Mae’r ffaith eich bod chi’n defnyddio PrydainoddiFry yn dynodi’n awtomatig eich bod yn cytuno â hwy ac mae’r holl delerau’n eich rhwymo chi i gontract. Os na ddymunwch chi gytuno â’r telerau hyn, peidiwch â defnyddio’r wefan.

Caniatâd i Ddefnyddio’r Wefan

Mae gwefan PrydainoddiFry yn agored i bawb i’w defnyddio fel y mae hi wedi’i darparu. Cyfyngir ei defnyddio’n rhad ac am ddim i ddefnydd personol, unigol ac addysgol ohoni. Gan fod amrywiaeth o ddarparwyr, gan gynnwys y Partneriaid a’r Cyfranwyr Unigol, wedi cyflenwi’r defnyddiau ar y wefan, yr ydym yn cydnabod ac yn parchu eu hawliau Eiddo Deallusol. Mae dyletswydd gyfreithiol ar PrydainoddiFry i sicrhau na chaiff eu deunyddiau hwy mo’u dosbarthu, eu hatgynhyrchu na’u gwerthu mewn unrhyw ffordd sy’n amharu ar eu hawliau. Dyna pam y caiff hawliau’r Defnyddiwr eu datgan a’u cyfyngu’n glir yn y Telerau a’r Amodau hyn ac yn y Trwyddedau. Rhoir caniatâd cyfyngedig, felly, i’r defnyddwyr ddefnyddio eiddo pobl eraill.

Hawlfraint

Mae’r lluniau, y wybodaeth a’r data ar y wefan hon yn ddarostyngedig i Hawlfraint y Goron a Hawliau Eiddo Deallusol eraill a ddelir gan y Partneriaid a’r Cyfranwyr Unigol fel y dynodir. Ceir hefyd hawlfreintiau sy’n ymwneud â’r gronfa ddata’i hun a’r dyluniad, y strwythur a’r cod a ddefnyddir yn y wefan.

Defnydd Cymunedol o’r Wefan

Rhaid i ddefnyddwyr gofrestru a chreu cyfrif Defnyddiwr i ddefnyddio nodweddion cymunedol y wefan. Mae cyfrifon yn fodd: i osodiadau gael eu cadw, i greu hunaniaeth unigol; i rannu; i gyfrannu sylwadau ac i ymuno â grwpiau, creu grwpiau a chyfrannu deunyddiau, ymhlith nodweddion eraill. Ar bob adeg, y Defnyddwyr sy’n gyfreithiol gyfrifol am y deunyddiau a ddarparant fel testun neu gyfryngau digidol. Darperir Canllawiau ynghylch Defnydd Cymunedol o’r wefan. Os ceir bod y defnyddio hwnnw’n anghyfreithlon, yn destun cwyn, yn torri’r canllawiau neu’n achosi unrhyw doriad arall, mae PrydainoddiFry yn cadw’r hawl i atal neu wahardd unrhyw Ddefnyddiwr Cymunedol ar unrhyw adeg.

Y Risg i’r Defnyddiwr

Mae defnyddwyr yn derbyn eu bod yn defnyddio’r wefan ar risg y Defnyddiwr ei hun, ac er y gwnaiff gwefan PrydainoddiFry ei gorau glas i sicrhau amgylchedd derbyniol a bod y deunyddiau ynddi wedi’u llwytho i fyny’n gyfreithlon, mae defnyddwyr hefyd yn derbyn nad oes modd cynnig gwarant am y sylwadau neu’r deunyddiau sydd wedi’u llwytho i’r wefan. Os caiff hi rybudd, bydd y wefan yn gweithredu’n ddiymdroi i dynnu unrhyw ddeunydd o’r fath ohoni.

Cyfyngiadau ar Atebolrwydd

Nid yw PrydainoddiFry yn darparu unrhyw warant o ran perfformiad y wefan nac argaeledd y cynnwys neu’r nodweddion unigol. Y Defnyddiwr, yn unig, sy’n gorfod asesu a gwerthuso unrhyw ddeunydd neu destun a gaiff ei arddangos neu ei lwytho i lawr. Nid yw cynnwys, y deunydd na’r testun yn y wefan yn rhoi unrhyw warant o’i gywirdeb. Darperir y wefan fel y mae a heb unrhyw sicrwydd na gwarant. Mae PrydainoddiFry, felly, yn ymwrthod â phob atebolrwydd fel sy’n bosibl o fewn y gyfraith.

Defnyddio, Dosbarthu neu Atgynhyrchu Masnachol

Nid yw’r telerau hyn yn rhoi caniatâd i unrhyw ddefnyddio, dosbarthu nac atgynhyrchu masnachol. Defnyddiwch y dewis PRYNU at y dibenion hynny ac fe ddarperir trwyddedau ar wahân.

Trwydded Defnyddiwr ar gyfer PrydainoddiFry

Partïon

Y partïon i’r Drwydded hon yw’r Partneriaid a’r Defnyddiwr.

Diffiniadau

Y Partneriaid – Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Historic Environment Scotland, English Heritage

Cyfrannwr – Unrhyw unigolyn neu sefydliad sy’n llwytho Cyfryngau Digidol sy’n eiddo iddynt hwy i fyny i wefan PrydainoddiFry ac felly’n rhoi caniatâd i ganiatáu defnyddio’u heiddo ar y wefan

Defnyddiwr – Unrhyw berson, grŵp neu endid cyfreithlon sy’n cyrchu’r wefan hon ac yn pori, yn chwilio ac yn llwytho i lawr neu’n copïo deunydd a gynhwyswyd ym mharth y wefan hon neu sy’n cyrchu deunydd sy’n deillio o’r wefan hon

Trwydded PrydainoddiFry – Y Wefan a’i chynnwys fel y’i darparwyd yn www.britainfromabove.org.uk, sef y contract rhwng y Partneriaid a’r Defnyddiwr sy’n pennu telerau ac amodau’r defnyddio

Cyfryngau Digidol Trwyddedig – delweddau, testun neu ddata y gellir eu llwytho neu ei lwytho i lawr yn electronig a’u/a’i storio ar gyfrifiadur neu ddyfais electronig y Defnyddiwr

Defnydd Personol – defnydd gan unigolyn, a gall hynny gynnwys gweld, pori, llwytho i lawr i Ddyfais Electronig Bersonol neu argraffu at ddefnydd personol

Defnydd Addysgol – defnydd gan sefydliad addysgol cydnabyddedig neu fyfyriwr neu aelod o staff sefydliad o’r fath, a hwnnw’n ddefnydd sy’n cynnwys gweld, pori, llwytho i lawr i Ddyfais Electronig Bersonol neu argraffu at ddefnydd personol neu ei ddefnyddio’n ddielw mewn dosbarth, darlith neu ddogfennau gwaith dosbarth

Defnydd mewn Blog - defnydd anfasnachol o luniau sydd wedi eu paratoi yn arbennig ar flog neu wefan bersonol sydd yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ac sydd heb unrhyw gyfyngiadau ynglyn a mewngofnodi.

Atgynhyrchu – gwneud copïau o Gyfryngau Digidol Trwyddedig fel copïau unigol cyfan neu gynnwys Cyfryngau Digidol Trwyddedig fel rhan o unrhyw waith neu gyhoeddiad arall

Dosbarthu – darparu unrhyw Gyfryngau Digidol Trwyddedig i unrhyw drydydd parti mewn unrhyw ffordd

Dyfais Electronig Bersonol – unrhyw ddyfais electronig sy’n caniatáu mynediad i’r we, gweld, llwytho i lawr a storio ffeiliau electronig

1 Telerau ac Amodau’r Drwydded 

Yn amodol ar delerau’r drwydded hon, mae’r Partneriaid yn rhoi i’r Defnyddiwr drwydded gyfyngedig, an-anghynhwysol ac anrhosglwyddadwy i ganiatáu i’r Defnyddiwr ddefnyddio Cyfryngau Digidol Trwyddedig yn unig at Ddefnydd Personol neu Ddefnydd Addysgol fel y pennwyd.

2 Defnydd Personol 

Caniateir Defnydd Personol yn unol â thelerau’r Drwydded hon at ddibenion ymchwil, astudio neu arddangos ac allbrintio personol yn unig. Caiff y defnyddiwr storio Cyfryngau Digidol Trwyddedig ar ei gyfrifiadur/ei chyfrifiadur personol neu ei D(d)yfais Electronig Bersonol ond ni chaiff Atgynhyrchu na Dosbarthu’r Cyfryngau Digidol Trwyddedig

3 Defnydd Addysgol 

Caniateir Defnydd Addysgol yn unol â thelerau’r Drwydded hon at ddibenion ymchwil ac astudio yn unig. Caiff y Defnyddiwr greu dogfennau at gyfer gwaith dosbarth cyhyd â’i fod/bod yn cydnabydod ffynhonnell y wybodaeth (gwefan PrydainoddiFry), yn priodoli ffynhonnell unrhyw ddelwedd (er enghraifft, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Historic Environment Scotland, English Heritage), yn enwi’r Cyfrannwr Unigol ac yn dyfynnu cyfeirnod y ddelwedd.

4 Gwerthu

Mae caniatad gennych i ddarparu lluniau sydd wedi eu paratoi yn arbennig ar eich blogiau. Gellir cyrraedd y lluniau yma drwy wasgu y botwm ‘Llwythwch i lawr’ sydd i’w weld o dan bob llun. Mae’r lluniau yma yn cynnwys marc dŵr ac maen nhw wedi eu cyfyngu i 580px ar yr ochr hir.  Gallwch uwchlwytho y lluniau gyda marc dŵr yn unig i flog neu wefan bersonol, ar yr amod fod y wefan ar gael yn rhad ac am ddim, ac nad oes unrhyw gyfyngiadau ynglŷn â mewngofnodi.   Mae’r cyfyngiadau canlynol yn dal:  Rhaid arddangos y priodoledd sydd ynghlwm yn y marc dŵr.   Peidiwch â newid maint  y lluniau, na thorri unrhyw ddarnau i ffwrdd.  Peidiwch â defnyddio y lluniau ar gyfer unrhyw bwrpas masnachol, na cheisio eu gwerthu, eu hail-drwyddedu neu eu defnyddio mewn hysbysebion.  Rhaid creu linc yn ôl i’r wefan Prydain oddi Fry.

5 Amodau’r Defnyddiwr 

Rhaid i’r Defnyddiwr beidio â gwneud hyn: defnyddio neu ecsbloetio’r Cyfryngau Digidol Trwyddedig nac unrhyw ran ohonynt ac eithrio yn unol â’r Drwydded hon. Caiff pob hawl mewn perthynas â’r Cyfryngau Digidol Trwyddedig na roir mohoni’n benodol i’r Defnyddiwr o dan y Drwydded hon ei chadw gan y Partneriaid neu’r Cyfrannwr Unigol; gwerthu, ailwerthu, trwyddedu, dosbarthu neu drosglwyddo Cyfryngau Digidol Trwyddedig neu eu hecsbloetio’n fasnachol; trefnu i’r Cyfryngau Digidol Trwyddedig neu unrhyw ran ohonynt fod ar gael mewn unrhyw ffordd neu ar unrhyw gyfrwng i unrhyw drydydd parti ac eithrio yn unol â’r Drwydded hon; atgynhyrchu neu ddiwygio’r Delweddau Trwyddedig neu unrhyw ran ohonynt mewn unrhyw ffordd; defnyddio’r Delweddau Trwyddedig neu unrhyw ran ohonynt at unrhyw ddiben heblaw Defnydd Personol neu Ddefnydd Addysgol; onid yw’r Defnyddiwr wedi cael cydsyniad ysgrifenedig i wneud hynny gan y Partneriaid ymlaen llaw

6 Dyddiad Cychwyn 

Mae’r drwydded yn cychwyn ar y dyddiad y mae’r Defnyddiwr yn llwytho i lawr unrhyw Gyfryngau Digidol Trwyddedig o wefan PrydainoddiFry

Rheolir y Drwydded hon gan gyfraith yr Alban a rhaid ei dehongli’n unol â hynny ac mae’r partïon drwy hyn yn ymostwng i awdurdodaeth lwyr llysoedd yr Alban.

Trwydded y Cyfrannwr Unigol

Os dymunwch chi gyfrannu deunydd i wefan PrydainoddiFry, bydd angen i chi lofnodi i gael Cyfrif Defnyddiwr Cymunedol y caiff eich manylion cysylltu eu cofnodi ynddo. Wrth ddarparu deunydd i wefan PrydainoddiFry, yr ydych chi’n cytuno â’r telerau canlynol.

Partïon – Mae’r Drwydded rhwng y Partneriaid a ddiffinwyd isod a’r Cyfrannwr Unigol
Y Partneriaid – Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Historic Environment Scotland, English Heritage

Cyfrannwr – Unrhyw unigolyn neu sefydliad sy’n llwytho Cyfryngau Digidol sy’n eiddo iddynt hwy i fyny i wefan PrydainoddiFry ac felly’n rhoi caniatâd i ganiatáu defnyddio’u heiddo ar y wefan

Defnyddiwr – Unrhyw berson, grŵp neu endid cyfreithlon sy’n cyrchu’r wefan hon ac yn pori, yn chwilio ac yn llwytho i lawr neu’n copïo deunydd a gynhwyswyd ym mharth y wefan hon neu sy’n cyrchu deunydd sy’n deillio o’r wefan hon

Trwydded PrydainoddiFry – Y Wefan a’i chynnwys fel y’i darparwyd yn www.britainfromabove.org.uk, sef y contract rhwng y Partneriaid a’r Defnyddiwr sy’n pennu telerau ac amodau’r defnyddio

Cyfryngau Digidol Trwyddedig – delweddau, testun neu ddata y gellir eu llwytho neu ei lwytho i lawr yn electronig a’u/a’i storio ar gyfrifiadur neu ddyfais electronig y Defnyddiwr

Defnydd Personol – defnydd gan unigolyn, a gall hynny gynnwys gweld, pori, llwytho i lawr i Ddyfais Electronig Bersonol neu argraffu at ddefnydd personol

Defnydd Addysgol – defnydd gan sefydliad addysgol cydnabyddedig neu fyfyriwr neu aelod o staff sefydliad o’r fath, a hwnnw’n ddefnydd sy’n cynnwys gweld, pori, llwytho i lawr i Ddyfais Electronig Bersonol neu argraffu at ddefnydd personol neu ei ddefnyddio’n ddielw mewn dosbarth, darlith neu ddogfennau gwaith dosbarth

Atgynhyrchu – gwneud copïau o Gyfryngau Digidol Trwyddedig fel copïau unigol cyfan neu gynnwys Cyfryngau Digidol Trwyddedig fel rhan o unrhyw waith neu gyhoeddiad arall

Dosbarthu – darparu unrhyw Gyfryngau Digidol Trwyddedig i unrhyw drydydd parti mewn unrhyw ffordd

Dyfais Electronig Bersonol – unrhyw ddyfais electronig sy’n caniatáu mynediad i’r we, gweld, llwytho i lawr a storio ffeiliau electronig

Adnoddau a Lwythwyd i fyny – Unrhyw destun neu ffeil electronig a lwythwyd i fyny gan y Cyfrannwr i’w (h)arddangos ar wefan PrydainoddiFry

Cydsyniadau – caniatadau gan eraill sydd â hawliau yn yr adnodd

Hawliau Eiddo Deallusol – yr hawliau hynny fel y’u diffiniwyd mewn cyfraith hawlfraint, dyluniadau a phatentau

An-anghynhwysol – mae’r Cyfrannwr yn cadw pob hawl i roi trwyddedau i unrhyw un

1. Ymgymeriadau’r Cyfrannwr

Mae’r Cyfrannwr yn cytuno fel a ganlyn:-

(i) Cydymffurfio â Thelerau ac Amodau, Trwyddedau a Chanllawiau’r wefan a chadw Cyfrif Defnyddiwr

(ii) Y caiff y Cyfrannwr, o bryd i’w gilydd, gyflenwi Adnoddau a Lwythir i fyny a gall y rheiny gynnwys delwedd(au) a chapsiwn/capsiynau a thestun

(iii) bod y Cyfrannwr wedi cael pob Cydsyniad angenrheidiol neu ei fod/ei bod yn berchen ar yr Hawliau Eiddo Deallusol angenrheidiol i ganiatáu llwytho’r Adnoddau hynny i fyny i’w defnyddio ar wefan PrydainoddiFry.

(iv) y caiff y Partneriaid ddefnyddio ac aseinio’r Adnoddau a Lwythwyd i fyny, a hynny’n An-anghynhwysol at Ddefnydd Personol neu Addysgol, heb orfod cyfeirio’r mater i sylw’r Cyfrannwr a heb dalu breindal i’r Cyfrannwr.

(v) derbyn pob cyfrifoldeb cyfreithiol dros unrhyw Adnoddau a Lwythwyd i fyny ac i ddal y Partneriaid yn ddi-niwed os ceir unrhyw her gyfreithiol.

2. Ymgymeriadau’r Partneriaid

Mae’r Partneriaid yn cytuno:-

(i) y bydd hawlfraint y Cyfrannwr [neu’r sawl a enwyd gan y Cyfrannwr] yn dal i fod ar yr Adnoddau a Lwythwyd i fyny

(ii) y bydd eu defnyddio’n ddi-freindal yn gyfyngedig i ddefnydd Personol ac Addysgol dielw ohonynt.

(iii) y bydd y Partneriaid yn rhoi Trwyddedau Defnyddwyr i gyflawni’r ymgymeriadau hyn

(iv) i ddarparu unrhyw wybodaeth ynghylch ymholiadau am yr Adnoddau a Lwythwyd i fyny

3. Cychwyn

Mae’r Drwydded yn cychwyn adeg llwytho’r Adnoddau i fyny ac yn bodoli cyhyd ag y bydd y Partneriaid neu eu hetifeddion dielw’n bodoli.

4. Derbyn

Mae’r Cyfrannwr yn derbyn y drwydded hon drwy greu Cyfrif Defnyddiwr a llwytho Adnoddau i fyny. Rheolir y Drwydded hon gan gyfraith yr Alban a rhaid ei dehongli’n unol â hynny ac mae’r partïon drwy hyn yn ymostwng i awdurdodaeth lwyr llysoedd yr Alban.

Cwcis

Drwy gyrchu, pori, defnyddio neu gofrestru gyda Gwefan Prydain Oddi Fry, yr ydych chi’n cadarnhau’ch bod chi’n derbyn unrhyw gwci y mae’r wefan yn ei ddefnyddio.  Cyfeiriwch at ein heitem Cwcis ar y gwaelod i gael holl fanylion y cwcis a ddefnyddiwn ni a’r hyn a wnânt.

Preifatrwydd

Mae Prydain oddi Fry yn arddangos y datganiad hwn ynghylch preifatrwydd i amlygu’n hymrwymiad ffurfiol i breifatrwydd. Mae’r datganiad yn gymwys i wefan www.britainfromabove.org.uk ond nid i gysylltau yn y wefan hon â gwefannau eraill. Os dymunwch chi fanteisio ar wasanaethau penodol o fewn y wefan, megis creu proffil i gadw’r canlyniadau neu i gyfrannu i’r cofnodion, efallai y cewch chi gais i roi gwybodaeth bersonol amdanoch. Wnawn ni ddim defnyddio’r wybodaeth bersonol a roddwch ond i roi’r gwasanaethau yr ydych chi wedi gofyn amdanynt, neu at ryw ddefnydd cysylltiedig arall yr ydych chi wedi rhoi’ch cydsyniad iddynt. Wnawn ni ddim trosglwyddo’r wybodaeth amdanoch i unrhyw drydydd parti heb i ni gael eich cydsyniad. Mater i chi’n unig yw dewis defnyddio’r gwasanaethau hynny. Os dymunwch dynnu’n ôl o unrhyw un o’r gwasanaethau a weithredir drwy’r wefan hon, gallwch chi’n cyfarwyddo ni ar unrhyw adeg i roi’r gorau i’n prosesau a dileu’r wybodaeth bersonol amdanoch o’n cofnodion. Mae gennych chi hefyd yr hawl i gael gweld eich data personol drwy anfon cais i: enquiries@britainfromabove.org.uk.

Rhyddid Gwybodaeth

Mae gan bob un o bartneriaid Prydain oddi Fry gynllun o gyhoeddiadau Rhyddid Gwybodaeth. I gael y manylion amdanynt, ewch i’w priod wefan:

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, www.cbhc.gov.uk

English Heritage, www.english-heritage.gov.uk 

Historic Environment Scotland, www.historicenvironment.scot