Sut mae dod o hyd i ddelweddau?
Chwiliad Gair Allweddol – defnyddiwch y blwch chwilio ar ben y dudalen i wneud “chwiliad testun rhydd”. Mae hyn yn chwilio am y testun yn y disgrifiad o ddelweddau neu am gyfeirnod delwedd. Os cewch ormod o ganlyniadau, neu ddim un, rhowch gynnig ar newid y testun yn y chwiliad. I chwilio am ddau air, teipiwch nhw yn y blwch gyda bwlch rhyngddynt. I chwilio am ymadrodd, rhowch yr union eiriau mewn dyfynodau.
Chwiliad Map – tremiwch a chwyddwch o gwmpas y map i ddarganfod delweddau. Neu defnyddiwch y botwm ‘Darganfyddwch...’ i chwilio yn ôl Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr AO, Dwyreiniad / Gogleddiad, Enw Lle neu God Post.
Offer delwedd (botymau o dan y ddelwedd)
Byddwch cystal â nodi bod angen i chi gofrestru a mewngofnodi i gyrchu rhai o’r offer delwedd.
Mae’r offer yn cynnig y nodweddion canlynol:
Ychwanegu at broffil
Os darganfyddwch ddelwedd Aerofilms yr hoffech ei chadw i’ch proffil gallwch glicio ar y cyswllt “Cadw i broffil”. Bydd hyn yn creu cyswllt i’ch proffil yn awtomatig.
Llwythwch i lawr
Cliciwch y botwm i gytuno â’r Telerau ac Amodau a llwytho copi am ddim o’r ddelwedd i lawr at ddefnydd personol.
Prynu
Cliciwch y botwm ‘Prynu’ i brynu delwedd 300dpi at ddefnydd personol neu unrhyw ddefnydd arall.
Chwyddo
Defnyddiwch yr erfyn chwyddo i weld y manylion anhygoel yn y delweddau.
Ychwanegu pin
O dan y ddelwedd gallwch weld botwm “Ychwanegu pin”. Mae hwn yn gadael i chi ychwanegu sylw at y ddelwedd neu uwchlwytho ffotograff.
Pan fyddwch am ychwanegu sylw neu uwchlwytho ffotograff, cliciwch “Ychwanegu pin” a bydd cyfarwyddiadau’n ymddangos mewn blwch ar y ddelwedd a chylch melyn ar y ddelwedd. Llusgwch y cylch melyn i’r man lle rydych am i’r pin ymddangos. Daliwch ati i lusgo nes eich bod chi’n hapus â’r safle. Cliciwch “Parhau” a bydd blwch arall yn ymddangos lle gallwch deipio eich sylw a/neu uwchlwytho ffotograff. Cyflwynwch hyn pan fyddwch yn hapus gyda’ch cyfraniad.
Bydd pin glas nawr yn ymddangos ar y ddelwedd – gallwch weld eich sylw drwy glicio’r pin. Bydd eich sylw yn ymddangos hefyd yn yr adran Pinnau ymhellach i lawr y dudalen. Gallwch fynd i’r adran hon i olygu neu ddileu eich sylwadau.
Cyfryngau Cymdeithasol
Darperir cysylltau i “Hoffi” a “Rhannu” Facebook, Twitter a Google+. Gallwch glicio ar yr eiconau hyn i rannu’r ddelwedd Aerofilms a ddewiswyd gennych â phobl eraill.
Prynu delweddau
Os hoffech brynu delwedd ddigidol neu brint, ewch i’n tudalen Prynu Delweddau