Polisi cwcis

Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd

O dan Gyfarwyddeb Preifatrwydd yr UE, dylai ymwelwyr â Britainfromabove.org.uk gael eu hysbysu’n llawn am y cwcis a ddefnyddir gan y wefan a dylid rhoi iddynt y dewis i’w hatal rhag cael eu defnyddio. Os nad ydych am roi caniatâd, ac os cydnabyddwch ei bod hi’n bosibl na fydd elfennau o’n gwefan yn gweithredu fel y cawsant eu dylunio i wneud, gweler yr adran Rheoli Cwcis isod i gael cymorth gyda newid gosodiadau eich porwr.

Beth yw cwcis?

Ffeiliau testun bach wedi’u hysgrifennu gan weinydd gwe i’ch disg caled yw cwcis. Dim ond y wefan a’u hysgrifennodd yn wreiddiol all eu darllen neu eu golygu ac, yn nodweddiadol, fe’u defnyddir i’ch adnabod chi fel yr un person ar draws pob cais a wnewch i weld tudalen we.

Categorïau o gwcis

I’ch helpu i ddeall ein defnydd o gwcis rydym wedi mabwysiadu’r pedwar categori o gwcis a grëwyd gan y Siambr Fasnach Ryngwladol. Y rhain yw:

a) Hollol Angenrheidiol

Mae’r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn eich galluogi i symud o gwmpas y wefan a defnyddio ei nodweddion, megis cyrchu rhannau wedi’u diogelu’r wefan. Heb y cwcis hyn ni all gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt, fel basgedi siopa neu e-filio, gael eu darparu.

b) Perfformiad

Mae’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth ynghylch sut mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan, er enghraifft, pa dudalennau y bydd ymwelwyr yn mynd iddynt amlaf, ac a ydynt yn cael gwall-negesau o dudalennau gwe. Nid yw’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy’n adnabod ymwelydd. Caiff yr holl wybodaeth a gesglir gan y cwcis hyn ei hagregu ac felly mae’n ddienw. Nid yw’n cael ei defnyddio ond i wella sut mae gwefan yn gweithio.

c) Ymarferoldeb

Mae’r cwcis hyn yn caniatáu i’r wefan gofio dewisiadau a wnewch (megis eich enw defnyddiwr, iaith, neu’r rhanbarth rydych chi ynddo) a chynigiant nodweddion uwch a mwy personol. Er enghraifft, efallai y bydd gwefan yn gallu darparu adroddiadau lleol am y tywydd neu’r traffig drwy storio mewn cwci y rhanbarth lle rydych chi ar hyn o bryd.

Gallant gael eu defnyddio hefyd i gofio newidiadau rydych chi wedi’u gwneud i faint y testun, ffontiau a rhannau eraill o dudalennau gwe y gallwch eu haddasu. Gellir eu defnyddio hefyd i ddarparu gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt megis gwylio fideo neu roi sylwadau ar flog. Gall y wybodaeth a gesglir gan y cwcis hyn gael ei gwneud yn ddienw ac ni allant dracio eich gweithgarwch pori ar wefannau eraill.

d) Targedu neu Hysbysebu

Defnyddir y cwcis hyn i anfon hysbysebion sy’n fwy perthnasol i chi a’ch diddordebau. Fe’u defnyddir hefyd i sicrhau na welwch yr hysbyseb yn rhy aml ac i helpu i asesu effeithiolrwydd yr ymgyrch hysbysebu. Fe’u gosodir fel rheol gan rwydweithiau hysbysebu gyda chaniatâd gweithredwr y wefan. Maen nhw’n cofio eich bod wedi ymweld â gwefan a rhennir y wybodaeth hon â chyrff eraill megis hysbysebwyr. Yn weddol aml bydd cwcis targedu neu hysbysebu yn cael eu cysylltu â’r ymarferoldeb gwefan a ddarperir gan y corff arall.

 

 

Cookies used by Britain from Above

We use cookies on the website however, we do not collect or store personal data.. When someone visits our website we collect standard internet log information. We do this to find out things such as the number of visitors to the various parts of the website. We collect this information in a way which does not identify anyone. If we do want to collect personally identifiable information in the site we will be up front about this. We will make it clear when we collect personal information and will explain what we intend to do with it. The list below provides an overview of all the cookies used by the Britain from Above website and the purpose of the cookie.  Alongside each cookie is a category level which is described further in the section "Cookie categories".

Cwcis a ysgrifennwyd gan Brydain oddi Fry

Mae Britainfromabove.org.uk yn gosod y cwcis canlynol:

Name Purpose Expires Category
_ga a _gat Fe’u defnyddir gan Google Analytics. Mae’n ein helpu i gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â Britainfromabove.org.uk drwy dracio a ydych wedi ymweld o’r blaen 2 flynedd Perfformiad
_utma Fe’i defnyddir gan Google Analytics. Fel _ga, mae’n rhoi gwybod i ni a ydych wedi ymweld o’r blaen, fel y gallwn gyfrif faint o ymwelwyr â Britainfromabove.org.uk neu dudalen benodol sy’n newydd 2 flynedd Perfformiad
_utmb Fe’i defnyddir gan Google Analytics. Mae’n gweithio gyda _utmc i gyfrifo’r amser cyfartalog a dreuliwch ar Britainfromabove.org.uk 30 munud Perfformiad
_utmc Fe’i defnyddir gan Google Analytics. Mae’n gweithio gyda _utmb i gyfrifo pan gaewch eich porwr Pan gaewch eich porwr Perfformiad
_utmz Fe’i defnyddir gan Google Analytics. Mae’n dweud wrthym sut y daethoch i Britainfromabove.org.uk (o wefan arall, drwy beiriant chwilio, ac ati) 6 mis Perfformiad
analytics_nextpage_call Fe’i defnyddir gan Google Analytics. Mae’n dweud wrthym beth yw’r dudalen nesaf yr ymwelwch â hi ar Britainfromabove.org.uk, fel y gallwn wella’ch teithiau Pan gaewch eich porwr Perfformiad
GDS_successEvents and GDS_analyticsTokens Fe’u defnyddir gan Google Analytics. Maen nhw’n ein helpu i ddarganfod sut y defnyddiwch Britainfromabove.org.uk fel y gallwn wella’r wefan 4 mis Perfformiad
SESS*

Bydd Prydain oddi Fry yn gosod cwci sesiwn (sess*) pan fydd defnyddiwr yn dod i’r wefan.

Defnyddir y cwci hwn i storio’r wybodaeth bod defnyddiwr wedi’i fewngofnodi ai peidio wrth symud o gwmpas y wefan

Ar ôl 1 mis Hollol angenrheidiol
_has_js Fe’i defnyddir gan Britainfromabove.org.uk i ddarganfod a yw JavaScript wedi’i galluogi ar y porwr Pan gaewch eich porwr Perfformiad

PREF

VISITOR_INFO1_LIVE

Fe’i defnyddir gan YouTube i arddangos cynnwys fideo. Storir y ffeiliau fideo a sain ar YouTube a defnyddir y cwcis hyn i storio gwybodaeth am ddewisiadau ac i reoli’r arddangosiad Ar ddiwedd y flwyddyn galendr Ymarferoldeb
YSC Fe’i defnyddir gan YouTube i storio gwybodaeth ar gyfer hysbysebu a dadansoddeg Pan gaewch eich porwr Perfformiad
Cwcis yn gysylltiedig â Chyfryngau Cymdeithasol Cwcis sy’n darparu botymau rhannu Cyfryngau Cymdeithasol. Gosodir cwcis trydydd parti i ganiatáu i ddefnyddwyr rannu delweddau Vary from session to 10 years Ymarferoldeb

Rheoli Cwcis

Dyluniwyd Britainfromabove.org.uk i ddefnyddio cwcis i wella’ch profiad pori. Os yw’n well gennych, gallwch newid gosodiadau’ch porwr i ddileu a/neu atal y defnydd o gwcis ond ni fydd rhannau o’r wefan yn gweithio fel y bwriadwyd a gall gwallau pori godi. Darganfyddwch ragor am reoli eich cwcis.

Mae Google Analytics yn darparu ychwanegyn porwr ar gyfer optio allan.