Prynu Lluniau

 

Prynu Lluniau Digidol

Mae modd prynu lluniau digidol yn syth o’r wefan. Caiff llun unigol neu grŵp o luniau ei ychwanegu at eich basged drwy glicio’r botwm “Prynu” o dan y lluniau. Pris y lluniau a brynwch i’w defnyddio gennych chi’n bersonol yw £9.90 yr un a chânt eu cyflenwi yn ôl dyraniad o 300 dpi. Os cânt eu defnyddio at ddiben arall, cewch chi ddyfynbris.

Cwblhau’r Prynu

Cliciwch ar eicon y fasged o dan lun i’w ychwanegu at eich basged. Rhowch fanylion y drwydded a’ch manylion personol drwy fynd drwy’r tabiau sydd wedi’u labelu. Cliciwch “Archebu’n Awr” i gyflwyno’ch cais.

Prosesu Archebion

  • Caiff trwydded a dyfynbris eu hanfon atoch drwy e-bost cyn pen diwrnod fel rheol (cyn pen ychydig oriau, yn aml).
  • Os newidiwch chi’ch meddwl, gallwch chi roi’r gorau i’r archeb neu anfon e-bost atom i newid eich gofynion.
  • Ewch i gyswllt y wefan a gewch chi yn yr e-bost i ddangos eich bod yn derbyn y drwydded ac i dalu.
  • Wrth dderbyn y drwydded, yr ydych chi’n ymrwymo i brynu.
  • Yna, cewch chi lwytho’r lluniau i lawr ar unwaith.

Prisiau

  • Y Pris Isaf am lun at ddefnydd personol yw £9.90, gan gynnwys TAW.
  • Bydd y breindaliadau’n cynyddu yn achos defnydd masnachol neu ddosbarthu
  • Bydd eich trwydded yn weithredol ar ôl i chi dalu.

Talu

  • Cesglir y tâl drwy gerdyn credyd neu ddebyd.
  • Yn achos cleientiaid tymor-hir, gallwn ni sefydlu trefniant anfonebu.
  • Bydd y lluniau’n dal yn eiddo i berchennog yr hawliau. Mae telerau’r drwydded a gewch yn eich rhwymo chi’n gyfreithiol. I ddefnyddio’r llun at ddiben arall, rhaid i chi gysylltu â ni unwaith eto.

 

Manylion Cysylltu ar gyfer prynu/archebu lluniau digidol

Historic Environment Scotland sy’n ymdrin â Gwerthiant ac Ymholiadau Gwerthiant ar ran Prydain oddi Fry. Corfforiad statudol a sefydlwyd gan Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol yr Alban 2014 ac elusen gofrestredig (rhif elusen yr Alban SC045925) yw Historic Environment Scotland. Swyddfa gofrestredig: Longmore House, Salisbury Place, Caeredin EH9 1SH. Mae pob cofrestriad yn yr Alban. Rhif TAW Grŵp: GB221868015

T +44 (0)131 651 6872 [please mention Britain from Above] 
F +44 (0)131 662 1477 
Online enquiry form

 

Prynu Printiau

Os hoffech chi brynu print, gwiriwch y cyfeirnod a dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

Casgliad Aerofilms Cymru – bydd cyfeirnodau lluniau Aerofilms Cymru’n cychwyn ag WPW neu WAW. Os bydd eich ymholiad yn cyfeirio at un o’r lluniau hynny, cysylltwch ag Penglais, Aberystwyth SY23 3BU.  Cyfeiriad e-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk

Casgliad Aerofilms Lloegr – bydd cyfeirnodau lluniau Aerofilms Lloegr yn cychwyn ag EPW neu EAW. Os bydd eich ymholiad yn cyfeirio at un o’r lluniau hynny, cysylltwch ag Archive Services, English Heritage, The Engine House, Fire Fly Avenue, Swindon SN2 2EH. Cyfeiriad e-bost: archive@english-heritage.org.uk.

Casgliad Aerofilms yr Alban – bydd cyfeirnodau lluniau Aerofilms yr Alban yn cychwyn ag SPW neu SAW. Os bydd eich ymholiad yn cyfeirio at un o’r lluniau hynny, cysylltwch ag RCAHMS, John Sinclair House, 16 Bernard Terrace, Caeredin/Edinburgh, EH8 9NX neu defnyddiwch ein ffurflen ‘holi am lun’ ar y wefan.

Historic Environment Scotland is a Non Departmental Public Body established by the Historic Environment Scotland Act 2014 and is a charity registered in Scotland No. SC045925. Charity registered address: Longmore House, Salisbury Place, Edinburgh.

Sylwch mai cyfeirnodau sy’n cychwyn ag XPW neu XAW sydd i luniau o wledydd eraill. Os oes gennych chi ymholiad ynghylch un o’r lluniau hynny, cysylltwch ag Archive Services, English Heritage, The Engine House, Fire Fly Avenue, Swindon SN2 2EH. Cyfeiriad e-bost: archive@english-heritage.org.uk.